Overview

The City and County of Swansea is seeking to recruit a qualified and experienced ecologist to oversee the ecological planning function within the Council.

The Post is responsible for providing ecological advice in relation to planning applications, relevant appeals and public inquiries; the preparation of policies for the development plan; the co-ordination of biodiversity data and preparation of related plans and strategies; and the provision of specialist ecological advice and information.

Candidates should have a relevant degree and preferably CIEEM membership. Sound ecological survey skills (Phase 1 Habitats, NVC, and protected species survey experience and or /development licenses) are required as is a clear understanding of relevant legislation and policies. Excellent communication skills and an ability to deliver high quality and succinct technical reports are essential. The successful candidate will be diligent, passionate, professional and enthusiastic.
This is a full-time permanent role, however consideration will be given to applicants wishing to work reduced hours or on a part-time/job share basis.

Ecolegydd Gynlluniwr

Mae Dinas a Sir Abertawe eisiau recriwtio ecolegydd cymwys a phrofiadol i oruchwylio’r swyddogaeth cynllunio ecolegol o fewn y Cyngor.

Mae’r Swydd yn gyfrifol am ddarparu cyngor ecolegol mewn perthynas â cheisiadau cynllunio, apeliadau perthnasol ac ymchwiliadau cyhoeddus;  paratoi polisïau ar gyfer y cynllun datblygu; cydlynu data bioamrywiaeth a pharatoi cynlluniau a strategaethau cysylltiedig; a darparu cyngor a gwybodaeth ecolegol arbenigol.

Dylai ymgeiswyr feddu ar radd berthnasol ac, o ddewis, aelodaeth CIEEM. Mae sgiliau arolwg ecolegol cadarn (Cynefinoedd Cam 1, NVC, a phrofiad o gynnal arolwg o rywogaeth warchodedig a/neu drwyddedau datblygu) yn ofynnol fel y mae dealltwriaeth glir o ddeddfwriaeth a pholisïau perthnasol. Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i ddarparu adroddiadau technegol cryno a graenus yn hanfodol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ddiwyd, yn frwd, yn broffesiynol ac yn frwdfrydig.

Mae hon yn rôl sefydlog, amser llawn, fodd bynnag rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr sy’n dymuno gweithio oriau gostyngedig neu ar sail ran-amser/ rhannu swydd.

Closing date: 5.00pm, 30.6.2017